Ynglŷn â Technoleg Iechyd Cymru

Mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) yn gorff cenedlaethol sy’n gweithio i wella ansawdd y gofal yng Nghymru. Rydym yn cydweithio â phartneriaid ar draws y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a thechnoleg i sicrhau dull gweithredu Cymru gyfan. Rydym yn cael ein hariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ein lletya o fewn GIG Cymru, ond yn annibynnol ar y ddau.

 

Mae ein cylch gwaith yn cynnwys unrhyw dechnoleg iechyd neu fodel o ofal a chymorth nad yw’n feddyginiaeth. O ran iechyd, gallai hyn fod yn ddyfeisiau meddygol, diagnosteg, triniaethau a therapïau seicolegol.  O ran gofal cymdeithasol, gallai hyn gynnwys offer a dylunio amgylcheddol, neu fodelau gwahanol o gefnogi teuluoedd, plant, oedolion a’r gweithlu.

Ar hyn o bryd, mae ein gwaith yn canolbwyntio ar dri maes allweddol:

Nodi

 

Rydym yn ‘sganio’r gorwel’ i ddynodi technolegau neu fodelau o ofal a chymorth sydd ar y ffordd, y disgwylir iddynt gael effaith fawr ar iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol yng Nghymru, ac sydd yn ymatebol i anghenion a diddordebau defnyddwyr gwasanaethau, darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol, a phartneriaid technoleg ar draws Cymru..

Rydym yn cefnogi arloesi a datblygu technolegau yng Nghymru heyfd, drwy weithredu fel pwynt cyswllt cychwnynnol ar gyfer datblygwyr technoleg.

 

Ymatebion i anghenion defnyddwyr gwasanaethau, darparwyr iechyd a gofal cymeithasol, a datblygwyr technolegau ar draws Cymru.

Arfarnu

 

Rydym yn asesu technolegau iechyd a gofal cymdeithasol nad ydynt yn feddyginiaethau a modelau o ofal  a chymorth, ac yn cyhoeddi canllawiau annibynnol ac awdurdodol wedi’u seilio ar y dystiolaeth a’r arbenigedd gorau sydd ar gael. Rydym yn arfarnu technolegau dwy gydol eu cylch bywyd, o arloesedd i anarferiant.

Mae ein gwaith yn llywio GIG Cymru a’r sector gofal cymdeithasol i gomisiynu technolegau, ac yn cefnogi’r rheini sydd yn gwneud penderfyniadau i wneud penderfyniadau wedi’u seilio ar dystiolaeth ar fuddsoddiadau a dadfuddsoddiadau mewn technoleg.

 

 

Cydweithio gyda phobl ar draws y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a thechnoleg.

Mabwysiadu

 

Ein nod yw gwella ansawdd iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, drwy asesu’r gwerth ac optimeiddio’r defnydd o dechnolegau gofal iechyd clinigol a chost-effeithiol a modelau o ofal a chymorth. Rydym yn monitro’r gwaith o fabwysiadau ein canllawiau, a chanllawiau gan sefydliadau eraill, ar draws yr holl fyrddau iechyd lleol yng Nghymru, ac yn annog mabwyiadu ein canllawiau mewn gofal cymdeithasol. Mae hyn nid yn unig yn cynnwys mabwysiadu technolegau iechyd a gofal cymdeithasol newydd ond hefyd, dadfuddsoddi mewn technolegau iechyd presennol y canfyddir eu bod yn llai effeithiol neu yn anarferedig.

 

.

Canllaw awdurdodol i hybu’r defnydd o dechnolegau iechyd a gofal cymdeithasol a modelau o ofal a chymorth sy’n cynnig y budd mwyaf i bobl Cymru.

Arweinyddiaeth Technoleg Iechyd CymruYr

A portrait of staff and/or a member

Cadeirydd

Athro Peter Groves

Bywgraffiad >
X Mae Peter yn Gardiolegydd Ymyraethol Ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Cynghori Arbenigol Dyfeisiau MHRA a Phwyllgor Cynghori ar Dechnolegau Meddygol NICE, ac mae ganddo ddiddordeb mawr mewn rheoleiddio ac mewn asesu technoleg iechyd o ran dyfeisiau meddygol arloesol yng nghyd-destun GIG y DU. Mae Peter wedi ymrwymo i addysgu ac ymchwil, ac mae wedi cyhoeddi'n eang ar y sail wyddonol ar gyfer datblygu a defnyddio technoleg feddygol.
A portrait of staff and/or a member

Cyfarwyddwr

Dr Susan Myles

Bywgraffiad >
X Mae Susan wedi bod yn ymwneud ag asesu technoleg iechyd cymhwysol ers 25 mlynedd. Cyn ymuno â Thechnoleg Iechyd Cymru, bu'n arwain datblygiad a gwaith Grŵp Technolegau Iechyd yr Alban. Mae Susan wedi derbyn ysgoloriaethau gan yr Adran Iechyd a’r Cyngor Ymchwil Meddygol, ac mae hi wedi derbyn Cymrodoriaeth Harkness mewn Polisi Gofal Iechyd. Mae ganddi gymwysterau mewn Economeg (BA), Economeg Iechyd (MSc a PhD) ac Epidemioleg (PgDip).