Rhan allweddol o’n gwaith yn Technoleg Iechyd Cymru (HTW) yw arfarnu technolegau iechyd a gofal cymdeithasol  nad ydynt yn feddyginiaethau a modelau o ofal a chymorth; mae hyn yn cael ei adnabod hefyd fel asesu technolegau iechyd (HTA). Rydym yn ymchwilio ac yn gwerthuso’r dystiolaeth glinigol a chost-effeithiol orau sydd ar gael am dechnoleg iechyd neu ofal cymdeithasol. Ar sail y dystiolaeth hon, rydym yn cyhoeddi canllawiau ynghylch a ddylid mabwysiadu’r dechnoleg iechyd neu ofal cymdeithasol i’w defnyddio yng Nghymru.

Mae cynigydd y pwnc yn cyflwyno pwnc posibl i’w arfarnu

YDY

Ydy’r pwnc yn briodol ar gyfer cael ei arfarnu gan HTW?
Mae cynigydd y pwnc yn cael ei wahodd i gyflwyno ar eu pwnc yn y Grŵp Asesu

NAC YDY

Nid yw’r pwnc yn cael ei ychwanegu at y rhaglen waith arfarnu

YDY

Pwnc yn cael ei ychwanegu at y rhaglen waith arfarnu
Mae rhanddeiliaid yn helpu i ddatblygu’r protocol pynciau
Tîm HTW yn cynhyrchu protocol y Pwnc
Mae cynigydd y pwnc ac arbenigwyr annibynnol yn adolygu'r EAR ac yn cyflwyno sylwadau
Tîm HTW yn gwerthuso’r dystiolaeth ac yn cynhyrchu’r EAR
Cwblhau’r DMS (cyngor) a’r EAR

‘Mabwysiadu neu Gyfiawnhau’: Dylai GIG Cymru fabwysiadu’r cyngor yma, neu gyfiawnhau pam nad yw wedi cael ei ddilyn.

Bydd HTW yn gwerthuso effaith ein cyngor.

ALLWEDD

  • HTW: Technoleg Iechyd Cymru
  • TER: Adroddiad Archwilio Pwnc
  • EAR: Adroddiad Arfarnu Tystiolaeth
  • DMS: Crynodeb y Gwneuthurwr Penderfyniadau

Canllaw ar Broses Arfarnu

Mae’r canllaw hwn yn disgrifio’r prosesau y mae Technoleg Iechyd Cymru yn eu dilyn wrth gynnal arfarniadau ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae’r ddogfen yn esbonio’r broses rydyn ni’n ei defnyddio ar gyfer arfarniadau, gan gynnwys:

  • Cyflwyno a dewis pwnc cychwynnol
  • Cynhyrchu Adroddiad Archwilio Pwnc (TER)
  • Dewis pynciau ar gyfer gwaith pellach, ar ffurf Adroddiad Arfarnu Tystiolaeth (EAR)
  • Cynhyrchu Adroddiad Arfarnu Tystiolaeth
  • Cynhyrchu canllaw

Mae’n disgrifio beth sy’n digwydd ar ôl cwblhau arfarniad hefyd: sut rydym yn monitro’r effaith ac yn defnyddio ein canllawiau, a phryd y gallem newid neu ailedrych ar y canllaw presennol. 

Crynodeb o’r Canllaw ar Broses Arfarnu

Gallwch ddod o hyd i grynodeb iaith blaen fyrrach o’n Canllaw ar y Broses Arfarnu yma.

Canllaw i’r Broses Arfarnu

Awgrymu pwnc

Rydym yn mynd ati’n weithgar i chwilio am awgrymiadau am bynciau gan y GIG a gan weithwyr proffesiynol neu ddarparwyr gofal cymdeithasol, ond gall unrhyw un awgrymu pwnc technoleg iechyd i ni ei ystyried drwy ein ffurflen cynnig pwnc ar-lein. Ewch i’n tudalen adroddiadau a chanllawiau i weld enghreifftiau o bynciau blaenorol rydym wedi eu derbyn.

 

Archwilio pwnc

Os bydd pwnc a awgrymir o fewn ein cylch gwaith, wedyn, byddwn yn ystyried a oes digon o dystiolaeth ar gael i’w arfarnu, ac ydy’r pwnc yn bodloni ein meini prawf ar gyfer arfarnu. Mae’r ystyriaethau hyn yn cael eu hamlinellu mewn Adroddiad Archwilio Pwnc. Mae’r adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i Grŵp Asesu Technoleg Iechyd Cymru, ac mae’r cynigydd pwnc yn cael ei wahodd i gyflwyno’r pwnc. Os bydd y grŵp asesu’n penderfynu bod y pwnc yn briodol ac yn bodloni ein meini prawf dethol, mae’r pwnc yn cael ei ychwanegu at raglen waith arfarnu Technoleg Iechyd Cymru.

Mae’r holl Archwiliadau Pwnc yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan, o dan Adroddiadau a Chanllawiau, ac yn amlinellu’r rhesymau dros dderbyn neu wrthod pwnc ar gyfer rhaglen waith HTW.

 

Asesu’r dystiolaeth

Rydym yn cydweithio gyda’r cynigydd pwnc a gydag arbenigwyr i ddatblygu protocol ar gyfer y pwnc. Mae’r protocol yn cwmpasu’r hyn y gwyddwn am y pwnc hyd yn hyn, y cwestiwn asesu technoleg rydym eisiau ei ateb, a’r meini prawf ar gyfer dethol astudiaethau i’w cynnwys yn yr arfarniad.

Drwy ddefnyddio’r protocol, rydym yn cwblhau adolygiad cyflym (ac unrhyw ymchwiliadau eraill sydd eu hangen) o’r dystiolaeth sydd ar gael. Rydym yn asesu’r dystiolaeth ac yn drafftio Adroddiad Arfarnu Tystiolaeth (EAR). Mae’r fersiwn EAR ddrafft yn cael ei hadolygu gan arbenigwyr a gan Grŵp Asesu Technoleg Iechyd Cymru cyn i’r fersiwn derfynol gael ei llunio.

 

Datblygu Canllawiau

Mae Panel Arfarnu Technoleg Iechyd Cymru yn arfarnu’r dystiolaeth yn yr EAR, ac yn gwneud yn siŵr bod y goblygiadau i’r GIG ac i’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru wedi cael eu hystyried yn briodol. Mae’r panel yn cynnwys uwch-gynrychiolwyr o bob bwrdd iechyd lleol a phartneriaid o’r sector gofal cymdeithasol, sydd ag awdurdod wedi’i ddirprwyo i gyhoeddi Canllawiau Technoleg Iechyd Cymru. Mae’r canllawiau yn crynhoi’r dystiolaeth allweddol a’r goblygiadau i’r dechnoleg iechyd a gofal cymdeithasol neu’r model o ofal a chymorth yng Nghymru.

 

Lledaenu i‘r cyhoedd

Ar ôl ei gwblhau, bydd yr EAR a’r canllawiau yn cael eu cyhoeddi ar wefan HTW a’u hanfon at randdeiliaid allweddol sy’n gweithio o fewn y GIG a’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydym yn rhannu ein cyhoeddiadau drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a’n cylchlythyrau chwarterol hefyd.

 

Statws canllawiau HTW

Nid yw ein canllawiau’n orfodol, ond mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl bod ein canllawiau’n cael eu mabwysiadu. Statws canllawiau HTW yw ‘mabwysiadu neu gyfiawnhau’. Disgwylir i bob bwrdd iechyd lleol ac eraill adrodd ar sut maen nhw wedi ystyried ein harfarniad a’n canllawiau. Os ydynt wedi dewis peidio â mabwysiadu canllawiau HTW, gofynnir iddynt amlinellu eu rhesymeg a chyfiawnhau eu penderfyniad. Byddwn yn monitro’r broses o fabwysiadu canllawiau ar dechnolegau iechyd a gofal cymdeithasol nad ydynt yn feddyginiaethau yn rheolaidd. Mae hyn yn cynnwys canllawiau ac arweiniad HTW gan sefydliadau eraill, fel  NICE (The National Institute for Health and Care Excellence)