Mae’r Grŵp Llywio yn gosod cyfeiriad strategol Technoleg Iechyd Cymru. Mae’r grŵp yn sicrhau ein bod ni’n cyflawni yn ôl ein cylch gwaith, ein bod ni’n ‘addas i’r diben’, a bod gan ein canllawiau berthnasedd cenedlaethol i iechyd a’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r aelodau presennol wedi’u rhestru isod.

A portrait of staff and/or a member

Dr Jaz Abraham

X
A portrait of staff and/or a member

Athro Peter Groves

Cardiolegydd Ymyraethol Ymgynghorol, Cadeirydd y Grŵp Llywio

Bywgraffiad >
X Mae Peter yn Gardiolegydd Ymyraethol Ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Cynghori Arbenigol Dyfeisiau MHRA a Phwyllgor Cynghori ar Dechnolegau Meddygol NICE, ac mae ganddo ddiddordeb mawr mewn rheoleiddio ac mewn asesu technoleg iechyd o ran dyfeisiau meddygol arloesol yng nghyd-destun GIG y DU. Mae Peter wedi ymrwymo i addysgu ac ymchwil, ac mae wedi cyhoeddi'n eang ar y sail wyddonol ar gyfer datblygu a defnyddio technoleg feddygol.
A portrait of staff and/or a member

Steve Ham

Prif Weithredwr, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

Bywgraffiad >
X Ar ôl graddio mewn Gweinyddu Busnes o Brifysgol Caerfaddon, hyfforddodd Steve fel cyfrifydd gyda Grant Thornton, cyn dod yn Uwch Reolwr yn Ernst and Young. Ymunodd â'r GIG ym 1993 gydag Awdurdod Iechyd Gwent, a bu’n gweithio fel Cyfarwyddwr Cyllid Interim yn 2002, cyn cael ei benodi’n Gyfarwyddwr Cyllid Bwrdd Iechyd Lleol Casnewydd. Mae Steve wedi bod yn gweithio fel y Cyfarwyddwr Cyllid i Ymddiriedolaeth GIG Felindre ers 2009, ac erbyn hyn, mae’n Brif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth.
A portrait of staff and/or a member

Simon Renault

X
A portrait of staff and/or a member

Dr Susan Myles

Cyfarwyddwr, Technoleg Iechyd Cymru

Bywgraffiad >
X Mae Susan wedi bod yn ymwneud ag asesu technoleg iechyd cymhwysol ers 25 mlynedd. Cyn ymuno â Thechnoleg Iechyd Cymru, bu'n arwain datblygiad a gwaith Grŵp Technolegau Iechyd yr Alban. Mae Susan wedi derbyn ysgoloriaethau gan yr Adran Iechyd a’r Cyngor Ymchwil Meddygol, ac mae hi wedi derbyn Cymrodoriaeth Harkness mewn Polisi Gofal Iechyd. Mae ganddi gymwysterau mewn Economeg (BA), Economeg Iechyd (MSc a PhD) ac Epidemioleg (PgDip).

Mae’r Grŵp Llywio’n cynnwys uwch gynrychiolwyr o Dechnoleg Iechyd Cymru, Ymddiriedolaeth Prifysgol GIG Felindre  a Llywodraeth Cymru. I ddysgu mwy am bwrpas y grŵp, gweler y Cylch Gorchwyl Grŵp Gweithredol Technoleg Iechyd Cymru.