Newyddion

16 Mai, 2019

Technoleg Iechyd Cymru yn llofnodi cydweithrediad strategol

Health Technology sign a Memorandum of Understanding with the Welsh Health Specialised Services Committee

Rydym wedi llofnodi cynghrair strategol gyda Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (PGIAC), a ffurfioli ein partneriaeth. Bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn ein helpu i feithrin cysylltiadau agosach â PGIAC, sy’n rhannu cylch gwaith a rolau tebyg.

“Mae swm sylweddol o arian yn cael ei wario ar dechnolegau nad ydynt yn feddyginiaethau ar draws yr holl systemau gofal. Felly, mae cydweithio â PGIAC ar arfarnu technolegau arbenigol iawn sy’n aml yn gostus dros ben, yn arbennig o bwysig”, meddai Dr Susan Myles, Cyfarwyddwr Technoleg Iechyd Cymru.

“Yn ein rôl fel corff cenedlaethol sy’n gweithio i gyflwyno dull strategol o fabwysiadu technolegau iechyd nad ydynt yn feddyginiaethau, bydd y gynghrair hon gyda PGIAC yn galluogi’r ddwy ochr i wneud gwell defnydd o adnoddau prin, cyfnewid gwybodaeth a llunio adolygiadau o dystiolaethau ar y cyd.”

Mae Technoleg Iechyd Cymru yn gorff cenedlaethol a sefydlwyd yn 2017. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a thechnoleg i ganfod, arfarnu a mabwysiadu technolegau iechyd newydd.

Rydym yn cael ein hariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei lletya gan GIG Cymru, ond yn annibynnol ar y ddau. Mae ein cylch gwaith yn cynnwys unrhyw dechnoleg iechyd nad yw’n feddyginiaeth, fel dyfeisiau meddygol, gweithdrefnau llawfeddygol, therapïau seicolegol neu delefonitro.

Mae PGIAC yn defnyddio Canllawiau cyhoeddedig ac Asesiadau Technoleg Iechyd Technoleg Iechyd Cymru i lywio ei benderfyniadau ac i gomisiynu technolegau arbenigol nad ydynt yn feddyginiaethau i gleifion sy’n byw yng Nghymru.

Fel Cydbwyllgor ar gyfer y saith Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru, mae PGIAC wedi dirprwyo cyfrifoldeb i gomisiynu amrywiaeth o wasanaethau arbenigol. Mae’n sicrhau mynediad teg at wasanaethau arbenigol diogel, effeithiol a chynaliadwy i bobl Cymru.

Roedd Dr Andrew Champion, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Gwerthuso Tystiolaeth ac Effeithiolrwydd yn PGIAC, ac aelod arbenigol hefyd o Grŵp Asesu Technoleg Iechyd Cymru, yn croesawu’r cyhoeddiad hwn.

Meddai: “Yn PGIAC, rydym yn dibynnu ar dystiolaeth o ansawdd uchel i benderfynu ar effeithiolrwydd clinigol a chost-effeithiolrwydd i’n galluogi i wneud penderfyniadau comisiynu arbenigol pwysig i gleifion yng Nghymru. Bydd ein cydweithrediad ffurfiol â Thechnoleg Iechyd Cymru yn sicrhau y byddwn yn cydweithio’n agosach ac yn cyflwyno’r adolygiadau ansawdd uchel hyn yn fwy amserol i gefnogi ein cylch cynllunio blynyddol.

“Mae gwneud penderfyniadau gofal iechyd hefyd yn galw am gydbwyso’r galw am dechnolegau a gwasanaethau newydd yn erbyn adnoddau prin. Bydd y bartneriaeth yn galluogi PGIAC i gael gafael ar yr wybodaeth sganio’r gorwel diweddaraf ar dechnolegau anfeddygol newydd i gefnogi’r broses hon.”

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am PGIAC.

Mae ein cydweithio eisoes wedi arwain at ganlyniadau llwyddiannus. Dyma sut rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd:

  • Cynhyrchu Canllawiau ar bynciau technoleg yng nghylch gwaith PGIAC.
  • Bydd Technoleg Iechyd Cymru a PGIAC yn defnyddio meini prawf tebyg wrth flaenoriaethu pynciau, er mwyn hyrwyddo cysondeb a gwneud y meini prawf mor berthnasol i Gymru ag sy’n bosibl.
  • ‘Caniatâd mynediad ‘ PGIAC i blatfform sganio’r gorwel newydd HealthTech Connect, sydd yn cael ei arwain gan Technoleg Iechyd Cymru ar gyfer GIG Cymru.

Rydym yn disgwyl i’n cydweithrediad gynhyrchu nifer o ganlyniadau cadarnhaol pellach, megis;

  • Mynediad gwell i ganolfannau rhagoriaeth, arbenigwyr a rhwydweithiau cenedlaethol a rhyngwladol.
  • Rhannu dysgu a chyfnewid gwybodaeth er mwyn llywio datblygiadau mewn systemau gofal, a lleihau dyblygu.
  • Arbedion maint a chwmpas mewn diffyg meddyginiaeth AMD ac ymdrechion comisiynu.
  • Cydweithio ar weithgareddau sganio’r gorwel.
  • Datblygiad personol a phroffesiynol i staff.