Astudiaeth Achos

18 Mawrth, 2020

Astudiaeth achos: FreeStyle Libre

A graphic with icons to represent a case study

Beth wnaethom ni?

Gwnaethom werthuso tystiolaeth ar y system monitro glwcos fflach FreeStyle Libre ar gyfer diabetes, mewn ymateb i FreeStyle Libre yn dod ar gael ar Dariff Cyffuriau y GIG. Cyhoeddom Ganllaw ym mis Tachwedd 2018.

Gyda phwy?

Gwnaethom addasu adroddiad a gyhoeddwyd gan Rwydwaith Asesu Technoleg Iechyd Ewrop (EUnetHTA), er mwyn cadarnhau ein casgliadau. Yn yr un modd, gwnaethom ymgysylltu â Grŵp Technolegau Iechyd Yr Alban (SHTG) ac elwa gan fynediad at gyflwyniad sefydliad cleifion o Diabetes Scotland.

Gwnaethom ymgysylltu ag ystod o arbenigwyr clinigol o GIG Cymru, yn cynnwys fferyllwyr a chynrychiolwyr y Rhwydwaith Diabetes a hefyd Diabetes UK Cymru. Gwnaeth gwneuthurwyr y ddyfais hefyd ddarparu gwybodaeth a sylwadau.

Beth oedd yr adwaith?

Teimlai rhanddeiliaid bod yr adolygiad o ansawdd uchel ac roedd ganddynt hyder yn ein dulliau gwerthuso. Roeddent hefyd yn teimlo bod tystiolaeth briodol wedi cael ei hadolygu a bod y broses yn gadarn.

Beth wnaethom ei ddysgu?

Nid oedd ansawdd a swm y dystiolaeth yn ddigonol i argymell mabwysiadau FreeStyle Libre fel mater o drefn ar gyfer pawb sydd â diabetes. Fodd bynnag, ystyriwyd bod FreeStyle Libre yn ddewis amgen priodol i fonitro glwcos y gwaed drwy bigiad bys, mewn amgylchiadau lle mae angen profi’n aml (wyth neu ragor o weithiau’r dydd).

Mae addasu gwerthusiadau tystiolaeth a gynhaliwyd gan sefydliadau asesu technoleg iechyd eraill yn rhoi arbedion o ran amser ac adnoddau. Mae’n debygol y gellir cyffredinoli sail tystiolaeth ar gyfer effeithiolrwydd clinigol, ond dylid teilwra canllaw at ddarpariaeth gwasanaeth iechyd lleol ac ystyriaethau o ran y sefydliad, yn cynnwys llwybrau cleifion a chostau.

Pa wahaniaeth wnaeth hyn?

Drwy gefnogi defnydd FreeStyle Libre dim ond mewn pobl sydd â diabetes sy’n gwneud wyth neu ragor o brofion pigiad bys bob dydd fel mater o drefn, bydd yn gwella effeithlonrwydd o ran dyrannu a thechnoleg yn GIG Cymru, h.y. manteisio i’r eithaf ar adnoddau sydd ar gael a’u dosbarthu i gael yr effaith gorau. Disgwylir i FreeStyle Libre arbed costau i GIG Cymru pan y’i targedir i gleifion lle mae tystiolaeth y byddai budd, gan arbed £835,226. Mae’r arbediad cost yn seiliedig ar y dybiaeth y byddai 50% yn manteisio ar y dechnoleg heb Ganllaw HTW.

Mewn cyfweliad, dywedodd un rhanddeiliad bod targedu defnydd technoleg FreeStyle Libre wedi gwella’r modd y mae’n cael ei ddarparu yng Nghymru.

Nodwyd bod angen casglu rhagor o ddata, yn arbennig er mwyn cynorthwyo i lenwi’r bylchau o ran gwybodaeth am effeithiolrwydd y dechnoleg mewn poblogaethau penodol.

Cliciwch yma i ddarllen Adroddiad Blynyddol 2018-2019 HTW yn llawn.