Hysbysiad preifatrwydd, ymwadiad a thelerau defnydd

Mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) wedi ymrwymo’n gryf i ddiogelu data personol. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio’r canlynol:

  • Pwy ydym ni
  • Pa wybodaeth rydyn ni’n ei chasglu amdanoch chi?
  • Sut rydym yn casglu eich gwybodaeth, pam mae ei hangen arnom, a sut y byddwn yn ei defnyddio
  • Defnyddio gwneud penderfyniadau awtomataidd a phroffilio
  • Defnyddio cwcis a thechnolegau eraill
  • Pa sail gyfreithiol sydd gennym i brosesu eich data personol
  • Pa bryd fyddwn ni’n rhannu data personol
  • Ble rydym yn storio ac yn prosesu data personol
  • Sut rydym yn diogelu data personol
  • Am ba mor hir rydym yn cadw data personol
  • Ein diweddaru ni
  • Eich hawliau cyfreithiol mewn perthynas â data personol, gan gynnwys eich hawliau i dynnu cydsyniad yn ôl
  • Sut i gysylltu â ni, gan gynnwys sut i wneud cwyn gydag awdurdod goruchwylio
  • Sut a phryd rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd

Rydym yn argymell eich bod chi’n darllen yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn drylwyr. Cysylltwch â ni gydag unrhyw gwestiynau neu bryderon am ein harferion preifatrwydd. Mae ein manylion cyswllt ar ein gwefan, ac maen nhw hefyd wedi’u cynnwys yn yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn.

 

Pwy ydym ni?

Mae Technoleg Iechyd Cymru yn gorff cenedlaethol sy’n gweithio i wella ansawdd y gofal yng Nghymru. Rydym yn cydweithio gyda phartneriaid ar draws y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a thechnoleg i sicrhau ymagwedd Cymru gyfan. Rydym yn cael ein hariannu gan Lywodraeth Cymru, ac yn cael ein lletya o fewn GIG Cymru, ond rydym yn annibynnol ar y ddau.

Mae ein cylch gwaith yn cwmpasu unrhyw dechnoleg neu fodel gofal a chymorth ym maes iechyd a gofal cymdeithasol nad yw’n feddyginiaeth. Ar gyfer iechyd, gallai hyn gynnwys dyfeisiau meddygol, diagnosteg, gweithdrefnau a therapïau seicolegol. Ar gyfer gofal cymdeithasol, gallai hyn gynnwys offer neu fodelau gwahanol ar gyfer cefnogi teuluoedd, plant, oedolion a’r gweithlu.

Rydym yn gweithredu fel Rheolydd Data a Phrosesydd Data o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • Rheolydd Data – wrth brosesu eich data i’n galluogi i gyflawni gwelliannau yn ansawdd y gofal yng Nghymru
  • Prosesydd Data – pan fo angen gweithredu fel Prosesydd Data gan Lywodraeth Cymru

 

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn esbonio sut mae Technoleg Iechyd Cymru yn defnyddio data personol. Mae’r holl gyfeiriadau at ‘we’ neu ‘us’ yn yr hysbysiad hwn yn cyfeirio at Technoleg Iechyd Cymru (HTW).

Gallwch gysylltu â ni drwy e-bost ar: VelindreInformationGovernance@wales.nhs.uk

 

Pa wybodaeth rydyn ni’n ei chasglu amdanoch chi?

Pan fyddwn yn sôn am ddata personol neu wybodaeth bersonol, rydym yn cyfeirio at yr wybodaeth y gellir adnabod unigolyn ohoni yn unig. Nid yw’n cynnwys data lle mae’r hunaniaeth wedi’i dileu.

Mae ein gweithgareddau ar draws Cymru yn hanfodol i’n llwyddiant. Rydym yn casglu ac yn prosesu gwybodaeth gyda rhanddeiliaid allweddol, i’n helpu i barhau i gydweithio â phartneriaid ar draws y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a’r sector technoleg i sicrhau dull gweithredu Cymru gyfan.  Mae hyn yn cynnwys y categorïau gwybodaeth canlynol:

  • Data sy’n cynnwys eich enw
  • Data cyswllt (cyfeiriad e-bost, rhif ffôn)

I roi hyn yn ei gyd-destun, mae’n cynnwys data personol sydd yn cael eu casglu o ganlyniad i’r canlynol:

  • Pan fyddwch yn gofyn i ni am ein gweithgareddau
  • Pan fyddwch yn cofrestru gyda ni am wybodaeth
  • Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer cyhoeddiadau neu gylchlythyrau
  • Pan fyddwch yn ffonio, ysgrifennu, cysylltu â ni ar-lein neu anfon neges destun atom neu fel arall, yn rhoi eich data personol i ni

Gall hyn gynnwys gwybodaeth fel eich enw, eich dewisiadau cyfathrebu, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post, cyfeiriad IP, rhif ffôn neu rif ffôn symudol.

Nid ydym yn casglu unrhyw ddata sydd yn cael eu diffinio fel categorïau arbennig o ddata personol o dan gyfraith Diogelu Data amdanoch, oni bai bod rheswm clir dros wneud hynny, er enghraifft, mewn perthynas â’ch iechyd, a dim ond lle bo hynny’n briodol – fel cymryd rhan mewn prosiect neu raglen benodol, neu lle mae angen i ni sicrhau ein bod yn darparu cymorth priodol i’ch galluogi i gymryd rhan mewn digwyddiad neu ein cefnogi mewn rhyw ffordd arall.

Byddwn ond yn casglu categorïau arbennig o ddata personol gyda’ch caniatâd, a bydd hysbysiadau clir yn cael eu darparu ar gyfer digwyddiadau a ffurflenni a gohebiaeth perthnasol eraill, fel eich bod yn gwybod pa wybodaeth sydd ei hangen arnom a pham mae ei hangen arnom.

 

Sut rydym yn casglu eich gwybodaeth, pam mae ei hangen arnom, a sut y byddwn yn ei defnyddio

Pan fyddwch yn cysylltu â ni ynghylch y gwaith rydym yn ei wneud, byddwn yn trin eich data gyda’r gofal mwyaf, ac rydym yn sensitif i’r angen i drin yr holl ddata yn gyfreithlon, yn deg ac yn dryloyw.

Dylech  fod yn ymwybodol hefyd, o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth, ein cylch gwaith i ddarparu gwybodaeth i fodloni gofynion archwilio mewnol ac allanol, a’n rhwymedigaethau cyfreithiol (e.e. atal twyll).

 

Defnyddio gwneud penderfyniadau awtomataidd a phroffilio

Nid yw Technoleg Iechyd Cymru yn gwneud penderfyniadau awtomataidd a phroffilio.

 

Defnyddio cwcis a thechnolegau eraill

Rydyn ni’n monitro gweithgarwch defnyddwyr er mwyn gwella’r cynnwys ar y safle. Mae Google Analytics (gwefan allanol) yn wasanaeth rhad ac am ddim gan Google (gwefan allanol), sy’n creu ystadegau ynghylch yr ymwelwyr i’r gwefan.

Ymhlith yr wybodaeth sy’n cael ei chasglu mae tudalennau sy’n cyfeirio / tudalennau gadael, patrymau clicio, y tudalennau mwyaf / lleiaf poblogaidd, hyd sesiynau, nifer yr ymwelwyr, math o borwr, system weithredu, ac ati. Mae gwybodaeth yn cael ei chasglu drwy ddefnyddio cwcis.

Mae’r Hysbysiad hwn yn egluro sut a pham rydym yn defnyddio cwcis ar wefan Technoleg Iechyd Cymru, a fydd yn eich galluogi i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch derbyn, gwrthod neu ddileu unrhyw gwcis a ddefnyddiwn.

Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis, felly rydym yn argymell eich bod chi’n darllen drwy’r wybodaeth isod. Gallai’r polisi cwcis hwn newid ar unrhyw adeg, felly dylech ei wirio’n rheolaidd.

Ffeil fechan o lythrennau a rhifau yw cwci, ac mae’n aml yn cynnwys dynodydd unigryw, dienw. Mae hyn yn golygu y gellir ei ddefnyddio i’ch adnabod chi heb ddatgelu eich gwybodaeth bersonol. Pan fyddwch yn ymweld â gwefan, mae’n gofyn am eich caniatâd i storio cwci yn yr adran cwcis ar eich gyriant caled. Mae cwcis yn cael eu defnyddio’n gyffredin ar y rhyngrwyd i wneud i wefannau weithio, i wneud iddynt weithio’n fwy effeithlon, neu i ddarparu gwybodaeth am eich defnydd o’r wefan i berchennog y safle neu drydydd partïon eraill. Er enghraifft, os ydych yn ychwanegu eitemau i fasged siopa, mae cwci’n galluogi’r wefan i gofio pa eitemau rydych chi’n eu prynu, neu os ydych chi’n mewngofnodi ar wefan, gall cwci eich adnabod chi nes ymlaen fel nad oes rhaid i chi roi eich cyfrinair i mewn eto.

 

Sut rydyn ni’n defnyddio cwcis?

Rydym yn defnyddio cwcis i wella’r ffordd mae ein gwefan yn gweithio. Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti hefyd wedi’u gosod gan Google Analytics, i adolygu ymarferoldeb ein gwefan.

 

Cwcis trydydd parti

Cwci trydydd parti yw un sy’n gysylltiedig â pharth neu wefan wahanol i’r hyn rydych chi’n ymweld â hi. Er enghraifft, ar y wefan hon, rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti wedi’u hadeiladu gan Google i alluogi dadansoddi’r wefan, ond gan nad yw ein gwefan ym mharth Google, mae hyn yn gwneud eu cwcis nhw yn gwcis “trydydd parti.” Bydd cwci Google Analytics yn adnabod ac yn cyfrif nifer y bobl sy’n ymweld â’n gwefan, yn ogystal â darparu gwybodaeth arall fel pa mor hir mae ymwelwyr yn aros, i ble maen nhw’n symud ar ein gwefan, a pha dudalennau sy’n derbyn y nifer fwyaf o ymwelwyr. Ni allwn reoli sut mae cwcis Google yn ymddwyn yn uniongyrchol.

 

Sut i Analluogi Cwcis

I newid eich gosodiadau cwcis:

 

Pa sail gyfreithiol sydd gennym i brosesu eich data personol

Mae gennym sail gyfreithiol i brosesu data personol bob amser, ac mae’r sail gyfreithiol a ddefnyddiwn fel a ganlyn:

  • Lle mae prosesu data yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni contract y mae gwrthrych y data yn barti iddo; neu
  • Lle mae gwrthrych y data wedi rhoi cydsyniad i brosesu ei ddata personol at un neu fwy o ddibenion penodol; neu
  • Lle mae prosesu data yn angenrheidiol i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol yr ydym yn ddarostyngedig iddi; neu
  • Lle mae prosesu data yn angenrheidiol i ddiogelu buddiannau hanfodol gwrthrych y data neu unigolion naturiol arall; neu
  • Lle mae prosesu data yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a gynhelir er budd y cyhoedd neu i arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd ynom ni (neu’r rheolydd); neu
  • Lle mae prosesu data yn angenrheidiol at ddibenion buddiannau cyfreithlon a ddilynir gennym ni neu gan drydydd parti, ac eithrio lle mae’r cyfryw fuddiannau o’r fath wedi’u trechu gan fuddiannau neu hawliau a rhyddidau sylfaenol gwrthrych y data sy’n mynnu diogelu data personol

I roi’r defnydd o’r chwe sail gyfreithiol a ddefnyddiwn ar gyfer prosesu data personol mewn cyd-destun, byddwn yn defnyddio’r data a’r wybodaeth bersonol a gasglwn at y dibenion canlynol:

Rhaid bod gennym reswm cyfreithiol i brosesu eich gwybodaeth bersonol.  Gan amlaf, byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn yr amgylchiadau canlynol:

  • i anfon deunydd at randdeiliaid drwy’r post neu gysylltu â nhw dros y ffôn ar gyfer ein dibenion cyfreithlon (yn amodol ar wirio yn erbyn y Gwasanaeth Dewis Ffôn ac unrhyw ddewisiadau presennol).
  • i gynnal ymchwil i ddeall yn well pwy yw ein rhanddeiliaid a thargedu ein gweithgarwch yn well.
  • i fonitro pwy rydym yn delio â nhw i ddiogelu yn erbyn twyll, gwyngalchu arian a risgiau eraill;
  • i gynnal a gweinyddu ein cronfa ddata a’n systemau rhanddeiliaid.

Ym mhob achos, rydym yn cydbwyso ein hanghenion yn erbyn eich hawliau fel unigolyn, ac yn sicrhau ein bod ni’n defnyddio data personol mewn ffordd neu at ddiben y byddech yn ei ddisgwyl yn unol â’r Polisi hwn, ac nad yw’n ymyrryd â’ch preifatrwydd neu eich dewisiadau a fynegwyd yn flaenorol.

Pan fyddwn yn prosesu categorïau arbennig o ddata personol (fel y crybwyllwyd uchod), byddwn yn sicrhau ein bod ni’n gwneud hynny yn unol ag un o’r seiliau cyfreithiol ychwanegol ar gyfer prosesu, er enghraifft lle mae gennym eich caniatâd penodol neu eich bod chi wedi gwneud y wybodaeth honno’n amlwg yn gyhoeddus.

Byddwn ond yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol at y dibenion y cafodd ei chasglu ar eu cyfer, oni bai ei fod yn rhesymol i ni gredu bod angen i ni ei ddefnyddio am reswm arall a bod y rheswm hwnnw’n gydnaws â’r diben wreiddiol. Caiff gwybodaeth ond ei chadw cyhyd â bod rheswm cyfreithiol i wneud hynny, a chaiff gwybodaeth nad oes ei hangen mwyach ei dinistrio mewn ffordd na ellir ei hail-greu. Os hoffech gael eglurhad o’r modd y mae’r prosesu i’r diben newydd yn gydnaws â’r diben gwreiddiol, cysylltwch â ni.

 

Pa bryd fyddwn ni’n rhannu data personol?

Datgelu Gwybodaeth at ddibenion cyfreithiol neu reoleiddiol

Efallai y bydd angen i ni ddatgelu eich gwybodaeth i drydydd parti fel rhan o waith parhaus i reoli rhaglenni ac archwilio.

Yn ogystal, fel rhan o’n cylch gwaith i gynnal diwydrwydd dyladwy, efallai y bydd angen i ni  ryddhau gwybodaeth hefyd i ddatblygu gwiriadau llywodraethu ar gyfer gofynion penodol, rhaglenni, partïon (neu brosiectau penodol) eraill. Byddwn yn cynnal y broses hon yn gyfreithlon, yn gymesur ac yn ddiogel).

Mae trydydd partïon yn cynnwys:

  • Cynghorwyr ac ymgynghorwyr allanol sydd â chysylltiad uniongyrchol â chyflawni’r rhaglen/prosiect (noder bod pob cynghorydd/ymgynghorydd wedi’u rhwymo i ofynion cyfrinachedd yn eu contractau);
  • Sefydliadau sy’n bartneriaid gyda Technoleg Iechyd Cymru.
  • Ein cynghorwyr proffesiynol e.e. cyfreithwyr, bancwyr, cyfrifyddion
  • Darparwyr gwasanaethau trydydd parti sy’n darparu gwasanaethau gweinyddol a chymorth i ni
  • CThEM

Byddwn yn sicrhau, os bydd angen rhannu gwybodaeth, y bydd yn cael ei rhannu’n ddiogel, a byddwch yn cael gwybod ein bod wedi ei rhannu, gyda phwy rydym wedi ei rhannu, a sut yr ydym wedi ei rhannu.

 

Ble rydym yn storio ac yn prosesu data personol?

Mae data personol yn cael ei storio yn systemau electronig GIG Cymru. Rydym yn cynnal adolygiadau diogelwch rheolaidd o’n holl lwyfannau trydydd parti ac yn cynnal asesiadau risg fel y mynnir o dan Erthygl 35 GDPR y DU a Phennod 2 Deddf Diogelu Data 2018 (GDPR y Du) i gydymffurfio â’n dyletswydd fel Rheolydd Data. Cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data i gael rhagor o wybodaeth os hoffech ddeall sut mae eich data yn cael eu prosesu.

 

Sut rydym yn diogelu data personol?

Mae gennym fesurau diogelwch priodol ar waith i atal eich gwybodaeth bersonol rhag cael ei cholli’n ddamweiniol, rhag cael ei ddefnyddio na’i chyrchu mewn modd anawdurdodedig neu ei ddefnyddio neu ei ddatgelu mewn ffordd arall.

I gyflawni hyn, rydym yn defnyddio technoleg ddiogel wedi’i hamgryptio i warchod yr holl wybodaeth bersonol sy’n cael ei storio gennym. Rydym yn gweithredu polisïau cyfoes sy’n cael eu hadolygu’n rheolaidd ar gyfer Diogelu Data, Llywodraethu Gwybodaeth, Polisi Cyfrineiriau, Diogelwch Gwybodaeth a Pharhad Busnes (gan gynnwys Asesiadau Risg drwy’r broses DPIA ac asesiadau risg unigol) i gynnal ein prosesau busnes ac i sicrhau bod yr holl bersonél yn ymwybodol o bwysigrwydd diogelwch data.

Caniateir mynediad at wybodaeth ar sail yr angen i wybod.

 

Am ba mor hir rydym yn cadw data personol?

Rydym ond yn cadw ac yn prosesu data personol cyhyd â bod gofyniad contractiol neu ofyniad busnes i wneud hynny neu mae rhwymedigaeth arnom fel arall i gadw’r un wybodaeth o dan unrhyw ofyniad contractiol, rheoleiddiol, neu gyfreithiol.   Pan fydd y gofyniad wedi dod i ben, caiff y wybodaeth ei ddileu’n ddiogel oddi ar ein systemau mewn ffordd fel bod gwybodaeth sy’n cael ei ddileu yn cael ei ddileu yn unol â rheoliadau diogelwch cyfredol.

 

Ein diweddaru ni

Fel rhan o’n cyfrifoldeb i sicrhau bod gwybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch yn gyfoes, rydym yn dibynnu arnoch chi i’n diweddaru.  Pan fydd unrhyw rai o’ch manylion yn newid, rydym yn gofyn i chi ein hysbysu fel y gallwn ddiweddaru ein cofnodion.

Os byddwch yn dweud wrthym nad ydych eisiau derbyn rhagor o gyswllt gennym a’ch bod chi ar ein cronfa ddata rhanddeiliaid, gall gymryd ychydig o amser cyn i’n gohebiaeth ddod i ben yn gyfan gwbl, gan y gall gymryd hyd at fis i gwblhau eich cais, er ein bod yn anelu at roi’r gorau i gyfathrebu cyn gynted â phosibl.  Os ydych yn gofyn am beidio â derbyn unrhyw gyswllt pellach gennym, byddwn yn cadw’r wybodaeth sydd gennym amdanoch ac yn eich ychwanegu at ein rhestrau atal, i sicrhau na fyddwch yn derbyn deunyddiau diangen yn y dyfodol.

 

Eich hawliau cyfreithiol mewn perthynas â data personol, gan gynnwys eich hawliau i dynnu cydsyniad yn ôl 

Fel gwrthrych data, mae gennych hawliau mewn perthynas â’ch data personol. Y rhain yw:

  • Mae gennych hawl i gael mynediad i’ch gwybodaeth bersonol,
  • Mae gennych hawl i wybodaeth anghywir a gedwir amdanoch gael ei chywiro
  • Mae gennych hawl i wybodaeth nad ydych yn dymuno i ni ei chadw mwyach gael ei ddileu (gelwir hefyd yn hawl i gael eich anghofio)
  • Mae gennych hawl i gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth
  • Mae gennych hawl i gludadwyedd data – i’ch gwybodaeth bersonol gael ei chludo mewn fformat strwythuredig, a ddefnyddir yn gyffredin, ac adnabyddadwy
  • Mae gennych hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol.
  • Mae gennych hawl i beidio â bod yn destun penderfyniad yn seiliedig ar brosesu awtomataidd yn unig, gan gynnwys proffilio, sy’n creu effeithiau cyfreithiol yn ymwneud â chi neu sy’n effeithio’n sylweddol arnoch chi.

Mae gennych hawl hefyd i wneud Cais Gwrthrych am Wybodaeth. Fel rhan o’r broses hon, byddwch yn gallu cadarnhau:

  • A yw eich data wedi’i brosesu neu beidio, ac os ydyw, pam
  • Categorïau’r data personol dan sylw
  • Ffynhonnell y data os nad ydych chi wedi darparu’r data gwreiddiol
  • I bwy y gall eich data gael ei ddatgelu, gan gynnwys y tu allan i’r EEA a’r mesurau diogelu sy’n berthnasol i drosglwyddiadau o’r fath.

Rydym yn cadw’r hawl i ddilysu eich hunaniaeth cyn rhyddhau gwybodaeth.

Ni fyddwn yn codi unrhyw daliadau am geisiadau o’r fath, oni bai bod y ceisiadau’n cael eu gwneud dro ar ôl tro ac yr ystyrir eu bod yn ormodol.  Byddwn yn ymateb i’ch cais o fewn 1 mis o’r dyddiad cyflwyno.

Os ydych chi wedi rhoi caniatâd i Technoleg Iechyd Cymru brosesu unrhyw ran o’ch data, mae gennych yr hawl hefyd i dynnu’r cydsyniad hwnnw’n ôl, oni bai bod rhwymedigaeth gontractiol neu gyfreithiol arnom i gadw data

Mewn achosion lle nad oes angen i ni gadw data am resymau contractiol neu gyfreithiol, byddwn yn dileu’r data cyn gynted â phosibl a chyn pen 1 mis o ddyddiad eich cais.

 

Sut i gysylltu â ni, gan gynnwys sut i wneud cwyn gydag awdurdod goruchwylio

Pe bai gennych unrhyw wrthwynebiadau neu ymholiadau yn ymwneud â sut mae eich data personol yn cael ei brosesu gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data yn:

Ymddiriedolaeth GIG Felindre,
Uned 2,
Charnwood Court,
Parc Nantgarw,
Nantgarw,
Caerdydd
CF15 7QZ
E-bost: VelindreInformationGovernance@wales.nhs.uk

 

I gael cyngor annibynnol am faterion diogelu data, preifatrwydd a rhannu data, neu os dylech fyth fod yn anfodlon â’r ffordd y mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre wedi trin neu rhannu eich data personol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn:

 Manylion cyswllt ICO Cymru

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru
2nd Floor, Churchill House
Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill,
Caerdydd
CF10 2HH
Rhif ffôn: 029 2067 8400
Ffacs: 029 2067 8399
E-bost: wales@ico.org.uk

 

Manylion Swyddfa’r ICO

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Rhif ffôn: 0303 123 1113 neu 01625 545745
Ffacs: 01625 524510
Gwefan: www.ico.gov.uk

 

Adolygiad o’r Hysbysiad Preifatrwydd

Rydym yn adolygu ein holl bolisïau a gweithdrefnau yn rheolaidd, a byddwn yn rhoi diweddariadau yn ein dogfennau ac ar ein tudalen we.  Cafodd yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn ei adolygu a’i ddiwygio ddiwethaf ar 12 Mai 2023.

 

Ymwadiad

Rydym yn cymryd gofal i sicrhau bod cynnwys y wefan yn gywir. Fodd bynnag, mae cynnwys yn cael ei ddarparu er gwybodaeth gyffredinol yn unig, ac wrth ei ddefnyddio, fe fyddwch chi’n derbyn y risg sydd ynghlwm wrth wneud hynny. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw ddifrod na cholled yn sgil gweithred neu anwaith a wneir yn dilyn defnyddio’r wybodaeth ar y wefan hon.

Rydym yn cadw’r hawl i wneud newidiadau i’r wefan fel sy’n briodol o bryd i’w gilydd.

 

Diogelu rhag feirysau

Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio nad oes unrhyw firysau yn ein deunyddiau. Fodd bynnag, rydym yn argymell eich bod yn rhedeg rhaglen wrthfirysau ar unrhyw ddeunydd y byddwch yn ei lawrlwytho o’r rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb dros unrhyw achosion o golli data, colli mynediad i’ch data neu ddifrod i’ch data neu i’ch system cyfrifiadurol a allai ddigwydd wrth ddefnyddio deunyddiau o’r wefan hon.

 

Gwefannau allanol/Cysylltiedig

Nid yw Technoleg Iechyd Cymru yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd unrhyw wefannau cysylltiedig. Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd mewn perthynas â’r cynnwys ar y gwefannau hynny, nac am unrhyw ganlyniadau a ddaw yn sgil dilyn unrhyw gyngor ar y gwefannau hynny.

Ni ddylid camgymryd rhestri am gymeradwyaeth o unrhyw fath.

Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio ar bob adeg, ac nid oes unrhyw reolaeth gennym dros argaeledd y tudalennau y mae dolenni iddynt, na thros unrhyw newidiadau i’r tudalennau hynny.

Mae Technoleg Iechyd Cymru yn cadw’r hawl i wrthod neu ddileu dolenni i unrhyw wefan.