Capiau rhwystro gwrthficrobaidd (ClearGuard) i’w defnyddio gyda hybiau cathetrau haemodialysis

Cofrestrwch ddiddordeb yn y pwnc hwn

Statws Testun Cyflawn

Capiau rhwystro gwrthficrobaidd i'w defnyddio gyda hybiau cathetrau haemodialysis i leihau heintiau llif gwaed sy'n gysylltiedig â chathetr.

Canlyniad yr arfarniad

 

Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu fel mater o drefn gapiau rhwystro gwrthficrobaidd ClearGuard HD i’w defnyddio gyda hybiau cathetr hemodialysis.

Mae tystiolaeth glinigol yn dangos bod defnyddio capiau ClearGuard HD yn lleihau cyfradd heintiau yn llif y gwaed o gymharu â chapiau safonol. Mae modelu economaidd yn awgrymu bod potensial ar gyfer arbedion cost cyffredinol drwy defnyddio ClearGuard HD.

Mae Technoleg Iechyd Cymru yn argymhell casglu data archwiliad byd real ynglŷn â defnydd capiau ClearGuard HD yng Nghymru.

Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?

 

Mae clefyd cronig yr arennau yn gymharol fwyn o ran ei ddifrifoldeb fel arfer, ond mewn rhai achosion gall waethygu gan arwain at gamau terfynol methiant yr arennau. Hemodialysis yw’r driniaeth fwyaf cyffredin ar gyfer pobl sy’n datblygu camau terfynol methiant yr arennau. Er bod y rhan fwyaf o gleifion sydd angen hemodialysis yn cael ffistwla rhydweli-wythiennol wedi’i greu i roi mynediad at gylchrediad y gwaed, bydd rhai cleifion angen cael dialysis drwy gathetr gwythiennol canolog (CVC) a roddir mewn gwythïen fawr yn y frest. Gan fod angen i’r gylchred dialysis gael ei chysylltu o’r CVC yn rheolaidd, mae risg o ddatblygu heintiau yn llif y gwaed (BSI) a allai fod yn ddifrifol a golygu gorfod mynd i’r ysbyty, marwolaeth a chynnydd mewn costau gofal iechyd.

Mae capiau rhwystro gwrthficrobaidd ClearGuard HD, sy’n cynnwys diheintydd, yn cael eu sgriwio ar ben hyb cathetr pan fydd y broses hemodialysis wedi gorffen ac maent wedi’u cynllunio i atal BSI a geir gan gathetr.

Nododd HTW y pwnc hwn drwy HealthTechConnect.

Crynodeb mewn iaith glir

 

Mae clefyd cronig yr arennau (CKD) yn gyflwr lle nad yw’r arennau’n gweithio fel y dylent. Fe’i cysylltir yn aml â mynd yn hŷn ac mae’n gyflwr hirdymor. Mewn rhai achosion, gall clefyd cronig yr arennau waethygu a datblygu i fod yn gamau terfynol clefyd yr arennau, pan fo gweithrediad yr arennau wedi dirywio cymaint fel na allant weithredu ar eu pen eu hunain mwyach. Y dewis mwyaf cyffredin o ran triniaeth ar gyfer pobl sy’n datblygu camau terfynol clefyd yr arennau yw proses a elwir yn hemodialysis. Yn ystod y broses hon bydd gwaed y corff yn cael ei gyfeirio drwy beiriant sy’n glanhau’r gwaed gan hidlo gwastraff ohono cyn y bydd yn cael ei ddychwelyd i gorff y claf, gan wneud y gwaith na all arennau’r claf ei wneud mwyach.

Tynnir gwaed ar gyfer y weithdrefn hon gan ddefnyddio cathetr gwythiennol canolog (CVC). Tiwb meddygol tenau a hyblyg yw hwn. Gosodir y CVC mewn gwythïen fawr a bydd gwaed o’r gwythiennau’n teithio drwy’r CVC i’r peiriant hemodialysis ac yna’n ôl i’r corff pan fydd wedi’i lanhau. Er y defnyddir llawer o ffyrdd gwahanol i gadw’r CVC yn lân, gall defnyddio CVC ar gyfer hemodialysis arwain at heintiau yn llif y gwaed (BSI), a allai olygu gorfod aros am gyfnodau hirach yn yr ysbyty ac, mewn rhai achosion, marwolaeth.

Caiff capiau rhwystro gwrthficrobaidd eu sgriwio yn sownd wrth ben CVC ar gam olaf y broses hemodialysis ac maent wedi’u cynllunio i atal haint o’r fath rhag digwydd.

Chwiliodd HTW am dystiolaeth y gellir defnyddio capiau rhwystro gwrthficrobaidd yn effeithiol gyda CVC hemodialysis er mwyn lleihau heintiau llif y gwaed cysylltiedig â chathetr.

Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu fel mater o drefn gapiau rhwystro gwrthficrobaidd ClearGuard HD i’w defnyddio gyda hybiau cathetr hemodialysis.

Adroddiad Archwilio Pwnc

TER197 06.2020

Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth

EAR030 03.2021

Canllaw

GUI030 05.2021

GUI
Gweld PDF

Mae ein dogfennau cyngor yn rhad ac am ddim i'w lawrlwytho ond buasem yn ddiolchgar pe gallech ein helpu i wella ein gwasanaethau drwy ddweud wrthym pam eich bod chi’n edrych ar ein cyngor.

Hepgor y ffurflen a lawrlwytho ffeil Cau

    Efallai yr hoffem gysylltu â chi trwy e-bost i gael gwybod mwy am sut y gwnaethoch ddefnyddio'r dogfennau.