Offer rhagfynegi seiliedig ar brofion imiwnogemeg ysgarthol

Cofrestrwch ddiddordeb yn y pwnc hwn

Statws Testun Cyflawn

Offer rhagfynegi seiliedig ar brofion imiwnogemeg ysgarthol i asesu pobl sy’n dod i ofal cynradd gyda chlefyd y coluddyn symptomatig.

Canlyniad yr arfarniad

 

Mae’r dystiolaeth yn cefnogi cynnal profion imiwnocemegol ysgarthol (FIT) i arwain y broses o atgyfeirio cleifion sydd â symptomau gastroberfeddol is i gael colonosgopi. Mae defnyddio’r offer rhagfynegi FAST a COLONPREDICT seiliedig ar brofion imiwnocemegol ysgarthol (FIT) yn dangos addewid, ond o’r dystiolaeth sydd ar gael ar hyn o bryd, ansicr yw’r manteision cynyddol o’u cymharu â phrofion imiwnocemegol ysgarthol (FIT) ar eu pen eu hunain.

Felly, mae HTW yn cefnogi mabwysiadu profion imiwnocemegol ysgarthol (FIT) fel yr argymhellir gan Ganllaw Diagnosteg NICE 30, ond mae’n cynnig cynnwys gwerthusiad posibl a strwythuredig o’r buddion clinigol a’r buddion o ran cost o gyfuno profion imiwnocemegol ysgarthol (FIT) gyda’r offer rhagfynegi FAST a COLONPREDICT yn y strategaeth weithredu yn y GIG yng Nghymru.

Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?

 

Mae’r rhan fwyaf o’r achosion o ganser y colon a’r rhefr yn cael eu diagnosio trwy gyfrwng atgyfeiriad gan Feddyg Teulu. Mae Canllaw Diagnosteg NICE 30 yn argymell cynnal profion imiwnocemegol ysgarthol (FIT) i arwain y broses o atgyfeirio cleifion mewn gofal sylfaenol sy’n dangos symptomau ond sydd ddim yn bodloni’r meini prawf atgyfeirio, i gael atgyfeiriad yn sgil amheuaeth o ganser (canllaw NICE 12). Gallai offer rhagfynegi seiliedig ar brofion imiwnocemegol ysgarthol (FIT) helpu i gyflymu atgyfeiriadau am ymchwiliadau i ganser y colon a’r rhefr, a lleihau nifer y triniaethau colonosgopi diangen.

Crynodeb mewn iaith glir

 

Mae HTW wedi asesu offer a oedd yn cynnwys profion imiwnocemegol carthion (FIT) a phriodweddau eraill, er mwyn helpu’r GIG yng Nghymru i benderfynu a yw am ddefnyddio’r offer hyn.

Mae canser y colon a’r rhefr yn cynnwys canser yn y colon (canser y colon neu ganser y coluddyn) a’r rectwm (canser rhefrol). Hwn yw un o’r canserau mwyaf cyffredin yng Nghymru, gyda thua 2,300 o achosion newydd yng Nghymru bob blwyddyn.

Gall profion imiwnocemegol carthion ganfod symiau bach o waed mewn sampl carthion. Gallant helpu meddygon teulu i benderfynu a ddylid atgyfeirio pobl sydd â symptomau cysylltiedig â chanser y colon a’r rhefr na ellir eu hesbonio, ond dim gwaedu rhefrol, ar gyfer profion brys. Gall priodweddau eraill, megis oedran neu ryw, hefyd helpu meddygon teulu i nodi pobl sydd mewn perygl.

Canfu HTW dystiolaeth ar gyfer dau offeryn gwahanol: FAST a COLONPREDICT. Mae FAST yn defnyddio prawf imiwnocemegol carthion gydag oedran a rhyw. Mae COLONPREDICT yn defnyddio’r prawf imiwnocemegol carthion gydag 11 priodwedd arall, yn cynnwys oedran, rhyw a phrofion eraill. Nid oes digon o dystiolaeth i argymell FAST neu COLONPREDICT.

Adroddiad Archwilio Pwnc

TER011 08.2018

Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth

EAR007 01.2019

Canllaw

GUI007 02.2019

GUI
Gweld PDF

Mae ein dogfennau cyngor yn rhad ac am ddim i'w lawrlwytho ond buasem yn ddiolchgar pe gallech ein helpu i wella ein gwasanaethau drwy ddweud wrthym pam eich bod chi’n edrych ar ein cyngor.

Hepgor y ffurflen a lawrlwytho ffeil Cau

    Efallai yr hoffem gysylltu â chi trwy e-bost i gael gwybod mwy am sut y gwnaethoch ddefnyddio'r dogfennau.