Prawf pwynt gofal ar gyfer haint anadlol acíwt
Statws Testun Cyflawn
Prawf pwynt gofal FebriDx ar gyfer haint anadlol acíwt mewn cleifion sy'n mynychu Adrannau Achosion Brys.
Crynodeb
Chwiliodd ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar effeithiolrwydd FebriDx fel prawf ar gyfer heintiau anadlol acíwt mewn adrannau achosion brys. Daeth Grŵp Asesu HTW i’r casgliad i beidio â datblygu’r pwnc hwn ymhellach ar hyn o bryd, er y gellir ailedrych ar y pwnc hwn yn y dyfodol ac ailystyried ei addasrwydd ar gyfer asesiad llawnach.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER238 02.2021