Archwilio Mabwysiadu

Mae mabwysiadu canllawiau HTW yn allweddol i sicrhau bod technolegau a modelau gofal a chymorth ar sail tystiolaeth yn cael eu defnyddio, a bod eu buddion disgwyliedig yn cael eu gwireddu i bobl yng Nghymru.

Ar ben hynny, mae canllawiau HTW yn sicrhau y gall partneriaid yn y diwydiant fod yn hapus eu byd, os ydyn nhw wedi cynnwys tystiolaeth ar gyfer eu cynhyrchion a’u gwasanaethau yn eu datblygiad ac wedi dangos eu gwerth, y bydd y datblygiadau arloesol hyn ar gael yn y system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Felly, mae’n hanfodol bod HTW yn gweithio i gefnogi mabwysiadu canllawiau ac archwiliadau i’r graddau y mae hyn wedi digwydd, i asesu effaith ein gwaith.

Astudiaeth achos AMaT

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHD) yn un o saith bwrdd iechyd yng Nghymru i ddefnyddio meddalwedd AMaT i fonitro mabwysiadu canllawiau HTW a NICE.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gwasanaethu tair sir, sef Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, felly roedd yn arbennig o bwysig sicrhau bod mynediad cyfartal at y gofal gorau sydd ar gael ar draws ardal y bwrdd iechyd. Buom yn gweithio’n agos gyda thîm effeithiolrwydd clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am ddwy flynedd i gefnogi gweithredu’r meddalwedd AMaT o fewn y bwrdd iechyd.

Yn y fideo hwn, rydym yn clywed gan ein Cyfarwyddwr Dr Susan Myles a’r tîm Effeithiolrwydd Clinigol yn BIPHD, ynghylch y manteision o ddefnyddio meddalwedd AMaT i fonitro mabwysiadu canllawiau NICE a HTW.