Skip to content

Adroddiadau a Chanllawiau

Rydym yn cyhoeddi tri math gwahanol o adroddiad:

Adroddiad Archwilio Pwnc (TER)  – Mae TER yn cael ei gyhoeddi ar ôl i’r chwiliad cychwynnol am dystiolaeth ar bwnc gael ei gynnal. Mae’r chwiliad hwn ond yn digwydd ar gyfer pynciau sy’n briodol i gael eu harfarnu gan HTW. Mae’r TER yn cael ei gyflwyno i Grŵp Asesu HTW, sy’n penderfynu p’un a ddylid derbyn y pwnc ar raglen waith HTW neu beidio.

Adroddiad Arfarnu Tystiolaeth (EAR) – Unwaith y bydd pwnc wedi’i dderbyn ar raglen waith HTW, mae ymchwilwyr HTW yn cwblhau adolygiad cyflym o’r dystiolaeth sydd ar gael ar y pwnc, yn asesu’r dystiolaeth ac yn drafftio YAG. Caiff hyn ei adolygu gan y cyfeiriwr pwnc, arbenigwyr annibynnol a Grŵp Asesu HTW cyn ei gwblhau.

Canllawiau  (GUI) – Mae canllawiau’n cael eu cynhyrchu ynghylch p’un a ddylid argymell mabwysiadu technoleg yng Nghymru gan Banel Arfarnu HTW, sy’n arfarnu’r dystiolaeth sydd ar gael yn y ddogfen EAR. Mae’r canllawiau yn crynhoi’r dystiolaeth allweddol, ac unrhyw oblygiadau ar gyfer y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Dogfennau Adolygu Arbenigol – Fel rhan o’n proses arfarnu, rydym yn gwahodd arbenigwyr ar bwnc penodol i gymryd rhan mewn adolygiad arbenigol o’n Hadroddiad Arfarnu Tystiolaeth drafft (EAR) ar y pwnc hwnnw. Rydym yn gofyn i adolygwyr roi sylwadau, naill ai ar faterion/pethau ansicr penodol y mae angen help ar ein tîm ymchwil i’w hegluro, neu ar gynnwys cyffredinol yr adroddiad.  Mae dogfennau adolygu arbenigol ar gael i’w gweld yn yr adran dogfennau ychwanegol ar ein tudalennau pwnc.

  • Ail gychwyn

272 adroddiadau a chanllawiau

TER

Mai 2024

Dehongli ECG gyda chymorth AI

Dehongli electrocardiogram gyda chymorth deallusrwydd artiffisial ar gyfer pobl yr amheuir bod ganddynt glefyd cardiofasgwlaidd mewn gofal sylfaenol/argyfwng
Darllen mwy
TER

Mai 2024

Gosod tiwbiau bwydo drwy’r ymysgaroedd gyda chymorth camera fideo neu system electromagnetig

Systemau fideo ac electromagnetig i helpu i osod tiwbiau bwydo.
Darllen mwy
A graphic representing a Topic Exploration Report

Mai 2024

Dyfeisiau niwrofodylu crimogol y gellir eu mewnblannu

Dyfeisiau niwrofodylu crimogol y gellir eu mewnblannu i drin yr ysfa am anymataliaeth wrinol
Darllen mwy
TER

Mai 2024

Monitor fideo yn y cartref ar gyfer epilepsi

Monitor fideo yn y cartref ar gyfer diagnosio a rheoli epilepsi
Darllen mwy
TER

Mai 2024

Rhwyll fiolegol wedi’i hatgyfnerthu i drwsio torgest

Rhwyll fiolegol wedi'i hatgyfnerthu, sy'n cynnwys cydrannau biolegol a synthetig, i'w defnyddio i drwsio torgest
Darllen mwy
TER

Ebrill 2024

Cymhorthion clyw i oedi dechrau neu ddatblygu dementia

Darparu cymorth clyw i oedi dechrau neu ddatblygu dementia mewn pobl sydd wedi colli eu clyw
Darllen mwy
TER

Ebrill 2024

Prawf ELF (Enhanced Liver Fibrosis)

Prawf gwaed anfewnwthiol yw'r prawf ELF, sy'n cyfuno tri biofarciwr serwm uniongyrchol o ffibrosis yr afu. Mae ar gyfer pobl…
Darllen mwy
TER, EAR, GUI

Mawrth 2024

Rhaglenni Dwys i Gadw Teuluoedd Gyda’i Gilydd (IFPP)

Rhaglenni Dwys i Gadw Teuluoedd Gyda’i Gilydd (IFPP) ar gyfer teuluoedd mewn argyfwng, lle mae risg ar fin digwydd o…
Darllen mwy
TER, EAR, GUI

Mawrth 2024

Ymyriadau drwy adborth fideo

Ymyriadau drwy adborth fideo i wella’r cyfathrebu rhwng teuluoedd a chefnogi plant sydd mewn perygl
Darllen mwy
TER

Mawrth 2024

Kitelock 4%

Kitelock 4% i atal haint llif y gwaed a chlotiau gwaed sy'n gysylltiedig â gosod cathetr yn y llinell ganolog
Darllen mwy
A graphic representing a Topic Exploration Report

Mawrth 2024

Fframiau orthotig i drin sgoliosis

Fframiau orthotig i drin sgoliosis idiopathig mewn plant a phobl ifanc
Darllen mwy
TER

Mawrth 2024

Systemau delweddu EOS ar gyfer cyflyrau asgwrn y cefn/y coesau, a llawfeddygaeth orthopedig

Mae systemau delweddu EOS yn ffordd o dynnu delweddau pelydr-X llawn o’r corff yn defnyddio dosau is o ymbelydredd. o’i…
Darllen mwy
TER

Mawrth 2024

Gwasanaethau gofal anadlol yn y gymuned

Gwasanaethau gofal anadlol yn y gymuned ar gyfer pobl sydd â chyflyrau anadlol cronig
Darllen mwy
TER, EAR, GUI

Mawrth 2024

Liposugno ar gyfer lymffoedema cronig

Liposugno ar gyfer lymffoedema cronig
Darllen mwy
TER

Mawrth 2024

Thermograffi drwy gymorth cyfrifiadur ar gyfer sgrinio canser y fron (Thermalytix)

Offer diagnostig gyda chymorth cyfrifiadur ar gyfer creu delweddau thermograffig i gynorthwyo i wneud diagnosis o friwiau malaen y fron.
Darllen mwy
TER

Mawrth 2024

Deallusrwydd artiffisial i ddiagnosio clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint ar y pwynt gofal

Mae N-Tidal Diagnose (TidalSense) yn cyfuno synhwyrydd carbon deuocsid cydraniad uchel â phlatfformdeallusrwydd artiffisial, i fesur newidiadau yn swyddogaeth yr…
Darllen mwy
TER, EAR, GUI

Ionawr 2024

Offer rheoli clwyfau digidol

Offer digidol ar gyfer monitro a rheoli clwyfau.
Darllen mwy
TER, EAR, GUI

Ionawr 2024

CBX ynni isel (Contact X-ray Brachytherapy)

CXB (Contact X-ray Brachytherapy) i drin canser y rectwm cam cynnar
Darllen mwy
TER

Ionawr 2024

Profion DNA ar gyfer tiwmorau cylchredol ar gyfer mwtaniadau T790M mewn celloedd canser yr ysgyfaint nad ydynt yn fach

Profion DNA ar gyfer tiwmorau cylchredol ar gyfer mwtaniadau T790M mewn celloedd canser yr ysgyfaint nad ydynt yn fach
Darllen mwy
TER

Ionawr 2024

Dyfeisiau synhwyro optegol ar gyfer canfod ymdreiddiad ac elifiad gan hylif mewnwythiennol

Dyfeisiau synhwyro optegol ar gyfer canfod ymdreiddiad ac elifiad gan hylif mewnwythiennol
Darllen mwy