Datganiad wedi’i ddiweddaru: Clefyd coronafeirws (COVID-19)
Yng ngoleuni’r achosion COVID-19 presennol, rydym wedi bod yn adolygu’r cyfarfodydd sydd wedi cael eu trefnu i gefnogi prosesau arfarnu a Chanllawiau Technoleg Iechyd Cymru (HTW).
Er mwyn rhyddhau staff rheng flaen ac osgoi amharu ar y GIG yn ystod y cyfnod dyrys hwn, mae HTW wedi gohirio cyfarfodydd ein Panel Arfarnu a chyhoeddi Canllawiau cenedlaethol newydd, hyd nes yr hysbysir fel arall.
Bydd HTW yn parhau â’n gwaith arfarnu tystiolaeth, yn barod i lunio Canllawiau cenedlaethol pan fo’n briodol. Byddwn yn cysylltu gyda phartneriaid asesu technolegau iechyd eraill yn y DU hefyd, er mwyn archwilio sut y gallwn helpu sector gofal y DU a’r gymuned ymchwil ehangach drwy ymateb i COVID-19.